
Ein Cenhadaeth-
I Ddarparu Sesiynau Gwyddoniaeth Ddwyieithog i Blant
Ein nod yw rhoi cyfle i blant cael profiad ymarferol a dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd ym myd go iawn gwyddonwyr. Mae gennym dros 15 mlynedd o weithio o fewn y diwydiant gwyddonol a hyrwyddo gwyddoniaeth i blant ysgol, ac rydym am rannu ein gwybodaeth gyda’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr y dyfodol.
Rydym wedi datblygu llawer o arbrofion ar draws y pynciau STEM a fydd yn caniatáu i blant ddysgu a deall y sgiliau sydd eu hangen i fod yn wyddonwyr ymchwil.
Bydd pob arbrawf yn caniatáu i blant gynllunio, gweithredu a dadansoddi – yr holl sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol! Rydym yn frwdfrydig am bob agwedd wyddonol ac yn sicrhau bod plant yn cael y cyfle i brofi a chael eu trochi yn y labordy.
EITEMAU GWYDDONIAETH I'R CARTREF AR WERTH!
Yn ystod yr amseroedd ansicr hyn rydym wedi datblygu siop ar-lein sy’n gwerthu eang o weithgareddau gwyddoniaeth, arbrofion ac offer.
Gall plant barhau i gyrchu ein gweithgareddau hwyliog ac addysgol gartref!
Gweler isod am eitemau sydd ar gael i’w prynu!
LLeoliad
Rydym wedi ein lleoli ger Aberystwyth ond gallwn deithio ledled Cymru a thu hwnt!
ffôn ac e-bost
Digwyddiadau y dyfodol
Digwyddiadau Gwyddoniaeth
Yn anffodus, does dim digwyddiadau ar hyn o bryd oherwydd coronafeirws. Dilynwch ein cyfryngau cymdeithasol am syniadau ar gyfer gwyddoniaeth yn y ty, a gallwch hefyd prynu ein pecyn Gwyddoniaeth adre!